Episodios

  • Cariad, tai bach, a Barddas
    Feb 24 2023
    Sgwrs ddiddorol rhwng Mari Lovgreen, Twm Morys, Bethan Gwanas ac Alaw Griffiths am Barddas a llyfrau newydd. Mwynhewch.
    Más Menos
    58 m
  • Cerddi T. Gwynn Jones
    Oct 13 2022
    Yn y bennod hon mae Cydlynydd Barddas, Alaw Griffiths, yn holi Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 Llŷr Gwyn Lewis a Dr Elen Ifan am eu perthynas â T. Gwynn Jones i ddathlu cyhoeddi llyfr newydd sbon gan Gyhoeddiadau Barddas, sef ‘Cerddi T. Gwynn Jones’ a olygwyd gan Llŷr.

    Hefyd mae’r Prifardd Twm Morys yma i drafod rhifyn diweddaraf cylchgrawn ‘Barddas’ (Hydref 2022) gan gynnwys datgelu enwau pedwar bardd arall oedd yn deilwng yng nghystadleuaeth y gadair eleni.
    Más Menos
    1 h y 4 m
  • Rhwng Teifi, Dyfi a’r Don
    Aug 8 2022
    Recordiad byw o bodlediad Barddas gyda Eurig Salisbury, Idris Reynolds ac Elinor Gwynn yn trafod beirdd a barddoniaeth leol.
    Más Menos
    37 m
  • Beth yw Barddas?
    Jul 29 2022
    Beth yw Barddas?! Gwrandewch ar bennod diweddaraf Podlediad Barddas i ddarganfod yr ateb! Gyda Twm Morys, Tudur Dylan Jones, Alaw Griffiths ac Alaw Mai Edwards.
    Más Menos
    40 m
  • Barddoniaeth, natur, a’r iaith Gymraeg
    Apr 15 2022
    Y Prifardd Aneirin Karadog sy'n sgwrsio am berthynas barddoniaeth a’r iaith Gymraeg â natur, gyda’r Prifardd Twm Morys, Bethan Wyn Jones, Rhys Dafis (golygydd cyfrol o gerddi am natur, Inc yr Awen a’r Cread) a Sara Louise Wheeler.
    Más Menos
    47 m
  • Pennod Y Merched
    Mar 8 2022
    Casi Wyn, Menna Elfyn, Sian Northey ac Elinor Wyn Reynolds yn trafod barddoniaeth, llenyddiaeth, 'sgwennu, bod yn greadigol, a chanu mewn band.

    Cyhoeddwyd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Merched 2022.

    Rhybudd: Mae 'na thema anaddas i blant ar ddiwedd y bennod wrth i’r gerdd olaf trafod trais.
    Más Menos
    48 m
  • Cerdd a llun
    Feb 16 2022
    Beth yw perthynas cerdd a llun? Pam fod rhai beirdd prin yn cyhoeddi eu cerddi? Pa erthyglau diddorol sydd yn rhifyn y Gaeaf 2022 o gylchgrawn Barddas?

    Anni Llŷn, Alaw Mai Edwards, a’r Prifeirdd Twm Morys, Idris Reynolds ac Alan Llwyd sy’n trafod, yng nghwmni Alaw Griffiths, Cydlynydd Barddas.
    Más Menos
    54 m
  • Gwledd y Nadolig
    Dec 15 2021
    Mae Nadolig ar y gweill ac mae genom ni wledd ar eich cyfer chi yn y podlediad hwn.

    Sgyrsiau difyr am gylchgrawn a’n llyfrau diweddaraf, syniadau ar gyfer anrhegion Nadolig a llawer mwy.

    Yn ymuno efo Alaw Mai Edwards mae’r Prifardd Elwyn Edwards, Y Prifardd Twm Morys, ac Alaw Griffiths, cydlynydd Barddas.
    Más Menos
    43 m