Yr Hen Iaith

De: Yr Hen Iaith
  • Resumen

  • Cyflwyniad hwyliog i hanes llenyddiaeth Gymraeg, gyda, Jerry Hunter, hogyn o’r Midwest yn America yn dysgu Richard Wyn Jones, hogyn o ganolbarth Sir Fôn, am drysorau’i iaith ei hun.
    All rights reserved
    Más Menos
activate_Holiday_promo_in_buybox_DT_T2
Episodios
  • Pennod 50 - Bardd Mewn Dau Fyd:Richard Hughes, Cefnllanfair
    Oct 10 2024
    A ninnau wedi recordio 50 o benodau, rydym ni’n dathlu’r garreg filltir trwy drafod un o feirdd mwyaf diddorol y cyfnod modern cynnar, Richard Hughes o Gefnllanfair yn Llŷn. Nodwn ei fod yn un o nifer o feirdd Cymraeg a oedd yn treulio llawer o amser yn Llundain yn oes Elizabeth I. Roedd Richard Hughes yn ffwtman, yn was a wasanaethai’r frenhines ei hun, ond yn ogystal â threulio amser yn y llys yn Llundain roedd hefyd yn ymweld yn gyson â’i hen fro, fel y tystia’i farddoniaeth. Yn wir, mae’i waith yn rhyfeddol o amrywiol, yn cynnwys cerddi rhydd a cherddi caeth o ran mesur, ac, o ran themâu, yn cynnwys: cerddi serch cwrtais a cherddi sy’n trafod rhyw mewn modd masweddus iawn; cerddi am fywyd yn Llundain a cherddi am Ben Llŷn (gan gynnwys englyn sionc i gwch Ynys Enlli); cerddi sy’n talu teyrnged i unigolion a cherddi sy’n dychanu pobl eraill. Ac, ie, roedd trafod barddoniaeth Richard Hughes yn fodd i Richard Wyn Jones ddysgu hen air Cymraeg am dŷ bach – cachdy! ** A Poet in Two Worlds: Richard Hughes of Cefnllanfair As we record our 50th episode, we celebrate the milestone by discussing one of the most interesting poets of the early modern period, Richard Hughes of Cefnllanfair in Llŷn. We note that he was one of several Welsh poets who spent a great deal of time in London in the age of Elizabeth I. Richard Hughes was a footman who served the queen herself, but in addition to spending time in the court in London he also visited his old home frequently, as his poetry demonstrates. Indeed, his work is wonderfully varied, including poetry in both free and strict metres and, as far as themes are concenred, including: courtly love poetry and poems which treat sex in an extremely bawdy manner; poems about life in London and ones about Pen Llŷn (including a lively englyn to the Bardsey Island boat); poems which pay tribute to individuals and ones which satirize other people. And, yes, discussing the poetry of Richard Hughes enabled Richard Wyn Jones to learn an old Welsh word for toilet – cachdy (shit-house)! Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Jerry Hunter, ‘“Ond Mater Merch”: Cywydd Llatai Troseddol Tomos Prys’, Llên Cymru 46 (2023) - Nesta Lloyd (gol.), Ffwtman Hoff: Cerddi Richard Hughes Cefnllanfair (1998). gw. hefyd yr erthygl berthnasol a fydd yn ymddangos yn adran ‘Culture’ Nation.Cymru erbyn diwedd yr wythnos.
    Más Menos
    36 m
  • Pennod 49 - Cariad, Protest ac Ideoleg Mesur: Y Canu Rhydd
    Sep 26 2024
    Dechreuwn yn y bennod hon drwy ystyried rhywbeth y mae llawer ohonom yng Nghymru’n ei gymryd yn ganiataol, sef y gwahaniaeth rhwng canu caeth Cymraeg a chanu rhydd. Awgrymwn fod agweddau cymdeithasol ac ideolegol ar y gwahaniaeth mydryddol sylfaenol hwn. Canolbwyntiwn ar farddoniaeth rydd a gyfansoddwyd yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ganrif nesaf ac mae trafod dau fath o fesur rhydd yn fodd i ni ystyried cwestiynau mawr yn ymwneud â’r berthynas (a’r gwahaniaeth) rhwng yr hen a’r newydd ac y ‘brodorol’ a’r ‘estron’. Nodwn fod lleisiau barddol benywaidd yn ymddangos yn y corff newydd hwn o farddoniaeth ac edrychwn yn fanwl ar gerdd angerddol sy’n protestio’n erbyn dadgoedwigo cymoedd y De (ac sy’n rhoi’r bai am y dinistr ecolegol hwn ar ‘y Saeson’). *** Episode 49 Love, Protest and the Ideology of Meter: the Free-Meter Poetry We begin in this episode by considering something many of us in Wales take for granted, namely the difference between Welsh-language strict-meter poetry and free-meter poetry. We suggested that there are social and ideological dimensions to this fundamental metrical difference. We concentrate on free-meter poetry composed during the sixteenth century and early in the following century and discussing the two kinds of free-meter verse provides an opportunity to consider big questions concerning the relationship (and difference) between the old and the new and the ‘native’ and the ‘foreign’. We note that female voices appear in this new body of poetry and we look at a poem which protests passionately against the deforestation of the valleys of South Wales (and which puts the blame on ‘the English’ for this ecological destruction). Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Brinley Rees, Dulliau’r Canu Rhydd 1500-1650 (1952). - Cennard Davies, ‘Early Free-Meter Poetry’ a Nesta Lloyd, ‘Late Free-Meter Poetry’ yn R. Geraint Gruffydd (gol.), A guide to Welsh literature c.1530-1700 (1997). - Christine James, ‘Coed Glyn Cynon’, yn Hywel Teifi Edwards (gol.), Cwm Cynon (1997).
    Más Menos
    46 m
  • Pennod Arbennig: Ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg . . . yn America!
    Sep 12 2024
    Dyma bennod a recordiwyd o flaen cynulleidfa fyw yn siop lyfrau Storyville, Pontypridd yn ystod Eisteddfod Genedlaethol 2024. Ac yntau newydd orffen ei ddarllen, roedd Richard Wyn Jones am drafod llyfr diweddaraf ei gyd-gyflwynydd, Dros Gyfiawnder a Rhyddid. Mae’n gyfrol sy’n darlunio hanes cymuned Gymraeg benodol yn ystod Rhyfel Cartref America, gan ganolbwyntio mewn dull storïol ar y dynion yn y fyddin ond gan ystyried hefyd eu perthynas â’u cymuned gartref yn Wisconsin. Mae’r stori’n cael ei hadrodd trwy gyfrwng geiriau Cymraeg gwreiddiol y Cymry Americanaidd hyn, ac yn ôl Richard Wyn Jones, ‘mae’n syfrdanol’ ei bod hi’n bosib cyflwyno cymaint o’r hanes cyffrous hwn yn y modd hwn. A nifer o brif gymeriadau’r stori wedi’u geni yn yr Unol Daleithiau a’u magu’n siarad Cymraeg fel eu mamiaith, mae hefyd yn bennod ddiddorol yn hanes cymdeithasol yr Hen Iaith. Ac fel y noda Richard Wyn Jones, mae’r modd y maen nhw’n ysgrifennu am ryfel yn Gymraeg yn cysylltu’r deunydd hwn â llawer o lenyddiaeth Gymraeg o’r Oesau Canol a drafodwyd yng nghyfres gyntaf y podlediad hwn. ** Prynwch 'Dros Gyfiawnder a Rhyddid' ** https://www.ylolfa.com/products/9781800993815/dros-gyfiawnder-a-rhyddid-y-cambrian-guards-caethwasiaeth-a-rhyfel-cartref-america Storyville Books Pontypridd: https://www.storyvillebooks.co.uk/ Special Episode: Writing about war in Welsh . . . in America! This is an episode which was recorded before a live audience in Storyville Books, Pontypridd during the 2024 National Eisteddfod. As he had just finished reading it, Richard Wyn Jones wanted to discuss his co-presenter’s latest book, Dros Gyfiawnder a Rhyddid [‘For Justice and Freedom’]. It’s a volume which relates the history of a particular Welsh community during the American Civil War, concentrating in narrative fashion on the men in the army while also considering their relationship with their home community in Wisconsin. This story is told through the original Welsh words of these Welsh Americans, and according to Richard Wyn Jones, ‘it’s amazing’ that it’s possible to present so much of this exiting history in this manner. As a number of the story’s main characters were born in the United States and raised speaking Welsh as their first language, it’s also an interesting chapter in the social history of the Old Language. And as Richard Wyn Jones notes, the way in which they write about war in Welsh connects this material to a great deal of medieval Welsh literature which was discussed in the first series of this podcast. ** Buy 'Dros Gyfiawnder a Rhyddid ** https://www.ylolfa.com/products/9781800993815/dros-gyfiawnder-a-rhyddid-y-cambrian-guards-caethwasiaeth-a-rhyfel-cartref-america Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a'r Athro Richard Wyn Jones Cynhyrchwyd gan: Richard Martin Cerddoriaeth: 'Might Have Done' gan The Molenes Darllen Pellach / Further Reading: - Jerry Hunter, Dros Gyfiawnder a Rhyddid [:] Y Cambrian Guards, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America (Y Lolfa, 2024).
    Más Menos
    38 m

Lo que los oyentes dicen sobre Yr Hen Iaith

Calificaciones medias de los clientes

Reseñas - Selecciona las pestañas a continuación para cambiar el origen de las reseñas.