Episodios

  • 2.2. 'Nabod dy Gorff dy Hun: Hwyl Fawr i'r Stigma am Secs ac STIs
    Aug 11 2024

    Helo bawb! Gobeithio eich bod wedi bod yn mwynhau cyfres 2 hyd yn hyn.

    Heddiw mae Elin a Celyn yn nôl i drafod pob dim secs, STIs a llawer mwy! Am flynyddoedd mae’r rhain wedi bod yn dermau ac yn drafodaethau yn anffodus yn llawn stigma. Ar wahan i wersi addysg rhyw bach yn awkward yn yr ysgol, pa mor barod ac wedi’u grymuso yw pobl ifanc heddiw i ddelio a’r pethau yma?


    I drafod hyn, cwmni Dr Ffraid bydd y merched yn ei gael yn yr episode yma. Mae Ffraid wedi graddio fel meddyg eleni a bellach yn gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae hi wedi dechrau cyfrif gwefannau cymdeithasol Secs Cymru i addysgu pobl am y materion hyn.

    Dewch i chwalu’r stigma o gwmpas y pwnc yma ac efallai dysgu cân newydd; gwrandewch i gael gwybod mwy!

    Mwynhewch, a chofiwch – Paid Ymddiheuro!

    Cofiwch os oes unrhyw beth yn peri gofid i chi yn y rhaglen hon, ewch i weld eich meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

    Noddir y podlediad hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol


    Lincs:

    https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/s/article/sexualhealthclinics/

    https://www.nhs.uk/conditions/sexually-transmitted-infections-stis/

    https://www.tht.org.uk/about-us/wales#:~:text=Terrence%20Higgins%20Trust%20Cymru%20works,good%20sexual%20health%20for%20all.


    Más Menos
    47 m
  • 2.1 Gafael ym mhob dim. Gafael ym mhob cyfle: Byw â Chancr y Fron
    Aug 4 2024

    Croeso nôl i gyfres 2 o Paid Ymddiheuro!

    A oeddech yn ymwybodol fod tua 55,000 o fenywod a 400 o ddynion yn derbyn diagnosis o gancr y frôn yn flynyddol yn y Deyrnas Unedig?

    Heddiw, caiff Elin a Celyn gwmni Anwen Edwards yn episod gyntaf yr ail gyfres. Dewch i ymuno â nhw i drafod taith Anwen o dderbyn diagnosis o gancr y fron, i rannu’r newyddion â’i theulu i'r driniaeth. Cawn glywed am bwysigrwydd cerddoriaeth drwy’r siwrnai, yn ogystal â sefydlu’r Gymuned Gefnogaeth Canser ar Facebook.

    Cofiwch os oes unrhyw beth yn y rhaglen hon yn peri gofid i chi, ewch i drafod â’ch meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

    Noddir y podlediad hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

    Lincs:

    https://www.cancerresearchuk.org/about-cancer/breast-cancer

    https://www.nhs.uk/conditions/breast-cancer-in-women/

    https://www.macmillan.org.uk/cancer-information-and-support/breast-cancerhttps://www.tenovuscancercare.org.uk/

    Cymuned Cefnogaeth Canser ar Facebook: https://www.facebook.com/share/Ad5TzUoAedQkjpGE/

    Más Menos
    44 m
  • 1.5 Rheoli'r Rhwystredigaeth: Mwy na Chur Pen yw Meigryn
    Aug 3 2024

    Croeso nôl i chi gyd.

    ‘Da ni bron ‘di cyrraedd diwedd y gyfres gyntaf o’r podlediad! Gobeithio eich bod chi gyd yn mwynhau hyd yn hyn.

    Heddiw, dim ond Elin sy’n gallu bod efo chi, a bydd hi’n cael cwmni Heledd Haf Evans i drafod profiadau’r ddwy ohonynt gyda meigryn.

    Dyma gyflwr sydd yn aml yn cael ei anwybyddu o fewn cymdeithas a dydy llawer o bobl ddim yn deall ei fod yn wahanol iawn i brofi cur pen!

    Dysgwch am yr amrywiaeth eang o symptomau all fod yn gysylltiedig â meigryn, gwerthfawrogi sut yn union maent yn amharu ar fywyd o ddydd i ddydd, a gweld sut mae’r ddwy yn ymdopi gyda nhw.

    Cyflwr cyffredin iawn yw hwn, ond eto un ble mae sawl cymhlethdod o fewn unigrywiaeth y symptomau i bawb.

    Mwynhewch a chofiwch, Paid Ymddiheuro!

    Cofiwch mai dim ond myfyrwyr meddygol yw Celyn ac Elin, felly os oes unrhyw beth yn y bennod sy’n peri gofid i chi ynglŷn â’ch iechyd eich hunain, ewch i weld y meddyg teulu.


    Lincs:

    https://www.nhs.uk/conditions/migraine/

    https://migrainetrust.org/

    https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-66065674

    https://c3sc.org.uk/event-single/headache-and-migraine-support-group/



    Más Menos
    45 m
  • 1.6 Bydd Yfory'n Gofalu am ei Hun: Gorbryderu am Iechyd
    Sep 15 2023

    Y Bennod Olaf…am rŵan.

    Wel, wel, dyma ni wedi cyrraedd pennod olaf cyfres gyntaf Paid Ymddiheuro – am siwrne gyffrous hyd yn hyn! Diolch i’n gwesteion ni gyd am fod yn rhan o’n stori ni; ‘da chi gyd yn ANHYGOEL.

    Dyma gyfle i chi ddod i adnabod tîm Paid Ymddiheuro, Elin a Celyn, ychydig yn well.

    Ydych chi wedi sylweddoli sut mae eich teimladau yn newid drwy gydol y mis? A oes gennych chi ffyrdd o ymdopi â’r newidiadau corfforol ac emosiynol rydym i gyd yn profi drwy ein cylchred fislifol? Ydych chi weithiau’n teimlo bo’ chi ‘di cael llond bol?

    Wel peidiwch â phoeni, mae Elin a Celyn yn deall yn llwyr. Dewch i ymuno yn eu trafodaeth nhw am eu profiadau gyda teimlo’n isel, teimlo’n hapus a phob dim yn y canol. Cawn glywed ychydig am brofiadau Celyn yn gwirfoddoli yn Sri Lanka a’i stori hi o fyw â gorbryder iechyd. Yn ogystal bydd Elin yn rhannu beth mae hi wedi’i ddysgu am y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a’r gylchred fislifol a sut mae hyn yn rhoi pŵer a hyder iddi.

    Dydy bywyd ddim yn hawdd. Dydy iechyd menywod ddim yn hawdd. Ond yr hyn sy’n gwneud pob dim yn well yw siarad, addysgu a chael gwared ar stigma. Gobeithio eich bod chi wedi dod yn fwy hyderus wrth wrando ar ein cyfres cyntaf ni ac wedi dechrau … PEIDIO YMDDIHEURO!

    Diolch a llawer o gariad,

    Elin a Celyn xx


    Lincs

    https://www.mind.org.uk/

    https://meddwl.org/

    Más Menos
    50 m
  • 1.4 Mae Gan Bawb Lais: Y Frwydr am Ddiagnosis Endometriosis
    Sep 1 2023

    Bore da bawb!

    Mae Elin a Celyn yn ôl heddiw i drafod endometriosis.

    Mae 1 ym mhob 10 menyw yn y Deyrnas Unedig yn byw gydag endometriosis, felly pam yw hi’n cymryd, ar gyfartaledd, 7.5 mlynedd i gael diagnosis ohono?

    Heddiw, cawn gwmni Heledd Roberts ac Elinor Morris i rannu eu straeon ysgytwol a’u profiadau pwerus . Mae’r ddwy stori yn dra wahanol, ond thema tebyg sy’n rhedeg drwy’r ddwy yw brwydo.

    Dewch i gerdded ar hyd eu llwybr caled i dderbyn diagnosis ffurfiol, hyd yn oed wedi llawdriniaeth ar ôl llawdriniaeth. Dewch i barchu y frwydr maent wedi bod yn rhan ohono i geisio cael y gymuned feddygol i wrando.

    Teimla’r ddwy yn hynod angerddol dros godi ymwybyddiaeth am endometriosis ac yn awyddus i chi gysylltu â nhw os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

    Mwynhewch a chofiwch, Paid Ymddiheuro!

    Cofiwch mai dim ond myfyrwyr meddygol yw Celyn ac Elin, felly os oes unrhyw beth yn y bennod yma sy’n peri gofid i chi ynglŷn å’ch iechyd eich hunain, ewch i weld eich meddyg teulu.

    Lincs:

    https://www.endometriosis-uk.org/

    https://www.who.int/news-room/fact-sheets/detail/endometriosis#:~:text=Endometriosis%20is%20a%20disease%20in,period%20and%20last%20until%20menopause.

    https://www.nhs.uk/conditions/endometriosis/

    https://endometriosisassn.org/endometriosis-resources/

    Instagram Heledd: @heledd_

    Instagram Elinor: @elinormorris_


    Más Menos
    56 m
  • 1.3 Y Llwybr Troellog: Gwella'r Wybodaeth am PCOS
    Aug 25 2023

    Croeso nôl i Paid Ymddiheuro. ‘Da ni wedi cyrraedd pennod 3 felly hanner ffordd drwy’r gyfres gyntaf!

    Heddiw, cawn gwmni Mair Garland i rannu ei stori hi o fyw gyda Polycystic Ovarian Syndrome (PCOS).

    Yn ôl yr NHS, dyma gyflwr sy’n effeithio 1 ym mhob 10 menyw yn y Deyrnas Unedig, ond faint ydych chi wir yn ei wybod am PCOS?

    Dewch i glywed stori Mair am y symptomau a’i sbardunodd i weld y meddyg teulu, ei brwydr i dderbyn diagnosis o PCOS a sut mae hi’n byw gyda’r cyflwr o ddydd i ddydd.

    Cofiwch mai dim ond myfyrwyr meddygol yw Celyn ac Elin, felly os oes unrhyw beth yn y bennod yma sy’n peri gofid i chi ynglŷn â’ch iechyd eich hunain, ewch i weld eich meddyg teulu.


    Lincs:

    https://www.nhs.uk/conditions/polycystic-ovary-syndrome-pcos/

    https://pcoscollective.com/

    http://www.verity-pcos.org.uk/https://www.rcog.org.uk/for-the-public/browse-all-patient-information-leaflets/polycystic-ovary-syndrome-pcos-what-it-means-for-your-long-term-health-patient-information-leaflet/

    Más Menos
    37 m
  • 1.2 Nid Diwedd y Daith: Trin a Thrafod y Menopos
    Aug 11 2023

    Helo! Croeso nôl bawb.

    Heddiw caiff Elin a Celyn gwmni Emma Walford i drafod ei phrofiadau hi drwy'r perimenopos hyd yn hyn.

    Cawn ddysgu fod cymaint mwy i'r menopos na 'hot flushes' yn unig, ac am bwysigrwydd siarad amdano yn agored gyda'ch teulu a'ch ffrinidau. Dewch i ddysgu am symptomau posibl, HRT a ble i droi am fwy o gymorth.

    Felly, paid â bod ofn a phaid ymddiheuro!

    Lincs defnyddiol:

    https://www.balance-menopause.com

    https://www.nhs.uk/conditions/menopause/

    https://www.channel4.com/programmes/davina-mccall-sex-myths-and-the-menopause

    https://thebms.org.uk/




    Más Menos
    47 m
  • 1.1 Ma’ Periods yn rhoi Pŵer: Y Mislif a Dulliau Atal Cenhedlu
    Aug 4 2023

    Helo bawb! Croeso i'n pennod gyntaf.

    Heddiw, caiff Elin a Celyn gwmni Anni Davies i drafod y mislif a dulliau atal cenhedlu. Dewch i ddysgu am y gylchred fislifol, synnu at yr ystod eang o ddulliau atal cenhedlu ar gael, ac efallai cael eich perswadio i brynu 'menstrual cup' !

    Mwynhewch a chofiwch: Paid Ymddiheuro!

    Más Menos
    46 m